PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL
Cymerodd Victoria yr awenau fel Prif Swyddog Gweithredol Gymnasteg Cymru ym mis Gorffennaf 2022.
Mae wedi treulio llawer o’i gyrfa wedi ymrwymo i’r busnes o greu a chyflwyno strategaethau i gefnogi gwytnwch a chynaliadwyedd o fewn y sector nid-er-elw, yn bennaf ar gyfer chwaraeon.
Mae hyn wedi cynnwys gweithio gyda Cwpan Ryder Cymru, Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm, Coca-Cola a McDonalds.
Cyn ymuno â Gymnasteg Cymru, gwasanaethodd Victoria fel Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Chwaraeon Cymru am bron i wyth mlynedd; gyrru newid ymlaen ym mhob agwedd ar y busnes o strwythurau llywodraethu i ddatblygiad masnachol. Victoria hefyd oedd yn arwain y llyw wrth gefnogi chwaraeon Cymru i lywio heriau Covid-19.