Lisa OConnell

CYFARWYDDWR GWEITHREDOL DIOGELU

Ymunodd Lisa â thîm gymnasteg Cymru ym mis Ebrill 2023.

Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Gweithredol Diogelu, mae’n gyfrifol am arwain a darparu cyfeiriad strategol ar bob agwedd o chwaraeon diogel, ar draws y sefydliad.

Bydd Lisa hefyd yn gweithio ledled Cymru ym mhob agwedd ar weithgaredd gymnasteg, a fydd yn cynnwys gweithio gyda chlybiau, canolfannau hamdden, rhieni, hyfforddwyr, rhaglenni perfformio ac addysgwyr.

Ar ôl cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol yn 2012, dechreuodd Lisa ei gyrfa mewn amddiffyn plant rheng flaen, nes cael ei phenodi fel gweithiwr cymdeithasol prosiect Invisible Walls Wales yng Ngharchar y Parc.
Yn dilyn hyn, bu’n gweithio i’r Hwb Diogelu Aml-asiantaeth sydd wedi’i leoli yng Ngorsaf Heddlu Caerdydd cyn mynd i weithio yng Nghanada, gan oruchwylio rheolwyr achosion diogelu.
Ymunodd Lisa â thîm gymnasteg Cymru ym mis Ebrill 2023.

Join Our
Mailing List