Mae Gymnasteg Cymru eisiau i bawb fwynhau profiad hwyliog, cadarnhaol lle gall gymnastwyr gyflawni eu potensial mewn amgylchedd sy’n ddiogel rhag unrhyw fath o gam-drin.

Mae 3 ffordd y gallwch godi pryderon am eich profiadau mewn gymnasteg yng Nghymru

1. Swyddog Lles y Clwb  

Mae swyddog lles y clwb yno i gefnogi’r clwb i reoli ac ymchwilio i bryderon lefel isel sy’n codi o fewn y clwb ble gallai rhywun fod wedi gweithredu mewn ffordd sydd ddim yn cyd-fynd â’r rheolau ymddygiad na rheolau aelodaeth.

2.Yn uniongyrchol i Gymnasteg Cymru 

Mae modd codi pryderon yn uniongyrchol i gymnasteg Cymru lle maen nhw’n cael eu hadnabod fel rhai mwy difrifol neu ddim yn gallu cael eu rheoli ar lefel clwb.

3.Pryderon brys / syth neu y tu allan i oriau  

Pan fydd pryder uniongyrchol neu ddifrifol yn cael ei godi dylai fod yn uniongyrchol i’r heddlu ar 999 ac yna’n cael gwybod i Gymnasteg Cymru. Bydd gan eich awdurdod lleol linellau cymorth hefyd ar gyfer codi pryderon am blant neu oedolion. Mae cyngor y tu allan i oriau hefyd ar gael gan linell gymorth 24 awr yr NSPCC ddydd 08088005000.

 

Report your concern below and we will get back to you.