Rydym wedi ymrwymo i egwyddorion ac arferion cyfle cyfartal i bawb. Ein nod yw darparu chwaraeon ddiogel a chynhwysol i galluogi pawb i cyrraedd eu podiwm personol eu hunain. Dylid ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn pob lefel ac agwedd o’n chwaraeon i greu cyfleoedd i bawb.

Os ydych chi’n anelu i gystadlu yn y Gemau Olympaidd neu Ngemau’r Gymanwlad, cael sgil newydd neu sgil anoddach, cymryd rhan mewn cystadlaethau neu digwyddiadau, neu fwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog gymnasteg gyda eich ffrindiau; mae gan Gymnasteg rhywbeth i bawb.

Mae’r nod o ddatblygu gymnasteg gynhwysol o fewn ein strategaeth.

Mae Gymnasteg Cymru yn cydnabod bod rhaid i’n cynlluniau cynnwys ein nod i bawb deimlo’n gynwysedig a derbyn profiad cadarnhaol o fewn ein chwaraeon. 

Cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Bwrdd – Gymnasteg Cymru

Ein prif amcan yn ein cynllun sefydliadol yw:

  1. Mae’r polisïau a’r gweithdrefnau sefydliadol yn creu’n gadarnhaol y sylfeini ar gyfer herio ac ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant   
    • Creu cyfleoedd ar draws y llwybr i unigolion gymryd rhan a chystadlu  
      • Adnabod a symud unrhyw rwystrau i greu gweithlu amrywiol a chynhwysol yn ein cymunedau  
        • Defnyddio ein statws o fewn y gymuned a’r llwyfannau digidol i amlygu anghydraddoldebau a rhannu arferion positif sy’n digwydd ledled Cymru

I gydnabod y gwaith sydd wedi bod yn digwydd i sicrhau bod ein chwaraeon yn gynhwysol i dros Cymru, llwyddoedd Gymnasteg Cymru i gyrraedd y safon cydraddoldeb lefel Aur achrediad Chwaraeon Anabledd Cymru tra bod 7 clwb ledled Cymru wedi derbyn achrediad Aur a 60 clwb arall ar y llwybr inSport.

Join Our
Mailing List