Mae gan unrhyw glwb sydd wedi cofrestru gyda Gymnasteg Cymru gyfrifoldeb a rôl i’w chwarae wrth gadw pawb o fewn eu hamgylchedd yn ddiogel. Dylai pobl wybod beth sydd gan y clwb mewn lle i gadw pobl yn ddiogel a beth i’w wneud os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon.
Mae rhan allweddol o gyflwyno chwaraeon ddiogel yn ymwneud â bod yn rhagweithiol a lledaenu’r neges am gadw plant yn ddiogel ac adeiladu diwylliant o weithredu er lles pob plentyn bob amser.
Rhai o’r ffyrdd y gall y clybiau gadw pobl yn ddiogel:
Cael polisiau a gweithdrefnau ar gyfer diogelu plant ac oedolion.
Mae pob clwb cofrestredig yn gaeth i bolisiau Gymnasteg Cymru a hefyd mae’n ofynnol iddynt fod â gweithdrefnau clir o sut y maent yn cael eu gweithredu o fewn y clwb. Dylai’r gweithdrefnau hyn fod ar gael yn rhwydd i bob aelod ac yn hawdd i’w deall. Mae pob aelod cofrestredig yn gaeth i safonau ymddygiad , rheolau aelodaeth a cwynion a’r gweithdrefnau disgyblu sydd i’w gweld yma.
Cael pwynt cyswllt ar gyfer diogelu (Swyddog Lles y Clwb)
Mae’n ofynnol i bob clwb cofrestredig gael Swyddog Lles sydd yn cael ei adnewyddu bob blwyddyn. Rhaid i swyddog lles y clwb gael ei hyfforddi’n briodol a fod yn rhan weithredol o’r clwb. Ceir rhagor o wybodaeth am recriwtio, gweithredu a chefnogi rôl swyddog lles y Clwb yma.
Recriwtrio Diogel
Mae y clybiau’n gyfrifol am sicrhau bod pawb o fewn eu hamgylchedd wedi cwblhau (lle bo angen) y gwiriad cofnodion troseddol priodol, hyfforddiant diogelu a chwblhau ymsefydlu’r clybiau i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r gofynion o fewn y clwb. Mwy o wybodaeth am wiriadau cofnodion troseddol yma / gofynion hyfforddiant yma / recriwtio diogel yma.
Cymorth i Clybiau
Mae cymorth ar gael i glybiau o sawl ffynhonnell, sef staff Gymnasteg Cymru naill ai eich swyddog datblygu arbennig clwb neu’r tîm diogelu. Neu gall clybiau cofrestredig gael cyngor gan gyfraith DAS – 01179330617 (bydd angen i chi gael rhif cofrestru eich clwb i gael mynediad at y cymorth hwn)
Mae cyfraith DAS hefyd yn darparu llinell gymorth cwnsela annibynnol am ddim i aelodau dros 18 oed ar 01179432121.
Rôl Swyddog Lles
Cyfrifoldeb pawb, fodd bynnag, yw diogelu, i gefnogi'r clybiau a'r gymnastwyr mae gofyn gorfodol i bob clwb cofrestredig gael Swyddog Lles Clwb apwyntiedig. Rhaid hyrwyddo manylion Swyddogion Lles y Clwb a hygyrch hawdd i holl aelodau'r clwb. Er mai isafswm gofyniad yw cael un, yn dibynnu ar faint ac amledd y clwb gall fod yn arfer da i gael mwy nag un.
Rôl Swyddog LlesPolisiau a Chanllawiau
Cefnogir ein chwaraeon gan bolisiau a chanllawiau i sicrhau profiad diogel a chadarnhaol i bawb sy'n cymryd rhan.
Polisiau a CymorthHyfforddiant, Datblygu a Chyfeirio
Mae'n ofynnol i unrhyw aelod o'n sefydliad sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl gwblhau gwiriad cofnodion troseddol a'n hyfforddiant diogelu cydnabyddedig. Dilynwch i gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant, y datblygiad a'r cymorth sydd ar gael.
Hyfforddiant, Datblygu a Chyfeirio