Gweledigaeth Gymnasteg Cymru yw creu cymunedau a chewri gwych trwy gymnasteg.
Mae Gymnasteg Cymru yn cael ei chydnabod yn swyddogol gan Chwaraeon Cymru fel y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer Gymnasteg yng Nghymru. Ein rôl ni yw gweithredu fel gwarcheidwad y chwaraeon yng Nghymru drwy arwain, datblygu a chefnogi’r rhai sy’n dymuno cymryd rhan.
Ein cenhadaeth yw i Gymru gael ei chydnabod fel cenedl gymnasteg flaenllaw, gan gynhyrchu pencampwyr a chreu cymunedau bywiog a chynhwysol.
Nodir ein hamcanion yn ein Strategaeth ar gyfer 2022.
- Medalau mewn digwyddiadau rhyngwladol a gymnastwyr Cymru ar lwybr Prydain
- Llwybr clir ar gyfer gymnasteg ar bob lefel o’r chwaraeon
- Clybiau cymunedol a pherfformiad cryf a bywiog
- Gweithlu rhagorol ar gyfer pob lefel a disgyblaeth
- Gymnasteg i bawb – Hygyrch a Diogel
- Sefydliad sy’n perfformio’n dda
Rydym yn atebol am gyflawni’r strategaeth yn onest ac yn agored tra’n trin ein gilydd gyda pharch, urddas ac uniondeb.
Mae gan ein chwaraeon rywbeth at ddant pawb, a’n nod yw creu amgylchedd hwyliog i yrru gymnasteg i ddyfodol llwyddiannus lle gall pob unigolyn gyrraedd ei botensial ei hun.
I cefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud i ddatblygu profiad cadarnhaol i bawb rydym wedi bod yn gweithio tuag at gyflawni safonau cydnabyddedig mewn Diogelu a Chydraddoldeb. Mae Gymnasteg Cymru wedi ymrwymo i ddysgu a gweithio’n barhaus gyda’n cymunedau.
I gwybod mwy am sut da ni’n llywodraethu ein chwaraeon. Ewch i Llywodraethu.